Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (54)v3 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 mins) Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 mins) |
3. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy: Rhaglen dileu Twbercwlosis mewn Gwartheg yng Nghymru (45 mins) |
4. Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Awdurdodaeth Tribiwnlysoedd Eiddo Preswyl) (Cymru) 2012 (15 munud) NDM4941 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Awdurdodaeth Tribiwnlysoedd Eiddo Preswyl) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Chwefror 2012. Dogfennau Ategol
|
5. Dadl: Adroddiad Blynyddol 2010-2011 Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (ESTYN) (60 munud) NDM4943 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn: Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2010-11. Gosodwyd copi o’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mawrth ac mae ar gael drwy’r ddolen a ganlyn: http://www.estyn.gov.uk/cymraeg/adroddiad-blynyddol/adroddiadau-blynyddol-2010-2011 Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Nodi ymhellach fod yr adroddiad yn dweud bod ‘lefel isel y medrau llythrennedd yn dal i beri problemau yng Nghymru’ ac nad yw ‘gwella llythrennedd y disgyblion yn cael rhan ddigon canolog yn y gwaith o gynllunio cwricwlwm yr ysgol.’ Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Gresynu wrth ganfyddiadau yn yr adroddiad blynyddol sy’n awgrymu bod gan 4 disgybl o bob 10 sy’n mynd i ysgol uwchradd oed darllen sydd o leiaf 6 mis o dan eu gwir oedran. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Mynegi pryder difrifol bod pump y cant o’r ysgolion a arolygwyd wedi achosi ‘pryder difrifol’ i Estyn, a bod angen ymweliadau dilynol ar 25 y cant. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Gresynu wrth ganfyddiadau gan Estyn sy’n awgrymu nad yw ‘gwella llythrennedd y disgyblion yn cael rhan ddigon canolog yn y gwaith o gynllunio cwricwlwm yr ysgol’ mewn nifer o ysgolion. Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Gresynu wrth ganfyddiadau yn yr adroddiad blynyddol
sy’n awgrymu bod safonau dysgu’n amrywio'n sylweddol
ledled Cymru. Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Gresynu nad oes yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu ymateb ysgrifenedig i adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Galw ar Lywodraeth Cymru i greu gofyniad cyfreithiol iddi ymateb yn ffurfiol, yn ysgrifenedig, i adroddiadau blynyddol Estyn yn y dyfodol. Gwelliant 8 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Croesawu cyflwyno’r Grant Amddifadedd Disgyblion yng Nghymru a’r potensial i wella cyflawniad i ddisgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim. Gwelliant 9 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Gresynu mai ychydig iawn fydd bandio ysgolion yn ei wneud i fynd i’r afael â datganiad y Prif Arolygydd dros Addysg a Hyfforddiant sef ‘Hyd yn oed lle mae ysgol wedi cael ei barnu’n ‘dda’ ar y cyfan, mae ansawdd yr addysgu neu’r dysgu’n aml yn wael yn rhai o’r gwersi neu’r adrannau unigol'. Gwelliant 10 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Gresynu wrth y dystiolaeth yn yr Adroddiad sy’n awgrymu nad oes nifer o awdurdodau lleol yn ymwybodol o berfformiad eu hysgolion a bod rhai ysgolion ‘wedi cael tanberfformio dros gyfnod hir'. Gwelliant 11 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Gresynu wrth y ffaith bod yr amserlenni ar gyfer gwella addysg a luniwyd gan Lywodraeth Cymru yn anghyson. Gwelliant 12 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno targedau dros dro i sicrhau ei bod yn cyrraedd ei tharged cyffredinol sef bod system ysgolion Cymru ymysg 20 uchaf y byd erbyn 2015.
|
6. Dadl: Agenda strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwyddoniaeth ac arloesi – “Gwyddoniaeth Cymru” (60 munud) NDM4942 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn: Nodi’r agenda strategol newydd ar gyfer gwyddoniaeth ac arloesedd yng Nghymru – Gwyddoniaeth i Gymru. Mae agenda strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwyddoniaeth ac arloesedd – Gwyddoniaeth i Gymru i’w gweld ar y ddolen hon:
http://wales.gov.uk/topics/businessandeconomy/csaw/publications/120312sfw/?skip=1&lang=cy Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Gresynu mai dim ond 3.3 y cant oedd cyfran Cymru o gyllid cyngor ymchwil y DU yn 2009/10. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Gresynu wrth y ‘lleihad yn nifer y disgyblion sy’n astudio pynciau STEM a’r ffaith nad yw nifer y disgyblion sy’n astudio’r pynciau hyn ar gyfer Safon Uwch wedi cynyddu yn unol â nifer y disgyblion sy’n cofrestru ar gyfer arholiadau Safon Uwch yn gyffredinol’. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglen i annog pobl dalentog iawn i fynd i ddysgu pynciau STEM. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Galw ar Lywodraeth Cymru i annog rhagor o fusnesau yng Nghymru i fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu mentrau busnes ac i gael gafael ar gyllid Rhaglen Fframwaith yr UE i wneud hyn. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Galw ar Lywodraeth Cymru i gynhyrchu cynllun cyflenwi yn amlinellu pwyntiau gweithredu allweddol ac yn pennu targedau diffiniadwy ar gyfer gwella gwyddoniaeth ac arloesedd. Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Galw ar y Gweinidog Addysg a Sgiliau i egluro’r sefyllfa o ran gwyddoniaeth fel dangosydd pwnc craidd mewn ysgolion. |
Cyfnod Pleidleisio
|
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 21 Mawrth 2012